Bydd y Gronfa Twf Lleol (CTLl) newydd yn cefnogi lleoliadau presennol i fuddsoddi yn eu lleoliad i’w wneud yn fwy cynaliadwy yn ariannol neu’n amgylcheddol.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn?
Bydd y gronfa newydd ar gael i leoliadau o fewn Awdurdod Lleol Caerdydd sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol gofrestredig, CBC neu elusen.
- Gyda throsiant gweithredu yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf uwchlaw’r trothwy TAW (£90,000).
- Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am dros dau flynedd.
- Lleoliad Caerdydd a’i brif bwrpas yw perfformiad diwylliannol.
- BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn).
Bydd ceisiadau busnes yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiadau sy’n cysylltu â Strategaeth Adfer Cryfach, Tecach, Gwyrddach y ddinas a Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd, ac sy’n cyflawni’r canlynol:
- Creu Swyddi a diogelu swyddi – bydd hyn yn cael ei fonitro dros gyfnod o 12 mis.
- Llai o ddefnydd o ynni a gostyngiadau CO2.
- Mwy o hygyrchedd o ran y lleoliad.
Beth yw’r Cyllid?
Bydd y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn cynnwys:
- Grantiau cyfalaf o £1,000 i £20,000.
- Ar gael i fusnesau sydd â chyfeiriad busnes cofrestredig yng Nghaerdydd.
- Angen dau ddyfynbris ar gyfer gwariant y prosiect.
- Bydd y grant yn 75% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW.
- Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau na bod wedi ymrwymo i’w prynu cyn cael cymeradwyaeth.
Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Caerdydd.
SUT I GYSYLLTU Â NI
Cysylltwch â ni drwy e-bost am ragor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a manylion ymgeisio. Nodwch y gall ymgeiswyr hefyd wneud cais am Gronfa Twf Caerdydd.
Byddwn yn ystyried ceisiadau dros £20,000 ar gyfer prosiectau strategol sy’n canolbwyntio ar greu swyddi a buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf mawr.
Gallwch ddysgu mwy drwy e-bostio cronfalleoliadCaerdydd@caerdydd.gov.uk.
*Noder bod y gronfa yn amodol a’r Cyngor dderbyn cymeradwyaeth y gyllideb derfynol.