Mae Caerdydd yn un o’r economïau digidol sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain ac mae hynny wedi arwain at glwstwr Technoleg Ariannol, RegTech a seiberddiogelwch cyffrous sy’n dod i’r amlwg. Yn ein dinas mae cwmnïau sy’n arbenigo mewn atebion talu arloesol, dadansoddeg data, cadwyn atal, seiberddiogelwch, cydymffurfio â data agored a hunaniaeth ddigidol, codio a RegTech.

Mae sgiliau technegol cryf ein gweithlu wedi’i gyfuno â llythrennedd digidol yn galluogi’r sector yng Nghaerdydd i drawsnewid a chryfhau ei hun er mwyn ymateb i heriau technolegol y ddegawd sydd i ddod. Mae ecosystem technoleg y ddinas, a ategir gan boblogaeth o raddedigion sy’n entrepreneuriaid wedi arwain at nifer o gwmnïau ‘aflonyddgar’ sy’n newid y ffordd rydym yn gwneud busnes.

Cefnogir y sector gan FinTech Wales, a sefydlwyd yn 2019 i rymuso cwmnïau Technoleg Ariannol i sicrhau llwyddiant byd-eang. Mae FinTech Wales yn helpu busnesau newydd ac yn helpu busnesau sy’n tyfu drwy gysylltu ag ecosystem y sector, gan ddod ag entrepreneuriaid, busnesau bach, canolig a mawr, cyflenwyr technoleg, prifysgolion, addysg uwch ac addysg bellach, ysgolion a’r sector cyhoeddus at ei gilydd.

Mae Caerdydd hefyd yn gartref i sefydliadau a chwmnïau diogelwch ariannol arloesol sy’n cynnig atebion rheoli meddalwedd.   Maent yn cael eu cefnogi gan yr Academi seiberddiogelwch Genedlaethol, a sefydlwyd gan Brifysgol De Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cenhedlaeth nesaf o arbenigwyr ar seiberddiogelwch ac Academi Feddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol o ran graddedigion rhaglennu a pheirianneg meddalwedd medrus mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymry ac arweinwyr y diwydiant.

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr heddiw a chewch yr holl newyddion, cyfleoedd a chynnwys diweddaraf gan Cyfoethogi Caerdydd