Mae’r sector yn cyflogi 17,000 o bobl yng Nghaerdydd sy’n gweithio mewn meysydd fel e-Iechyd, gwasanaethau fferyllol, meddygaeth atgynhyrchiol a thechnoleg feddygol. Mae gan Gaerdydd gyfran uwch na chyfartaledd y DU o bobl sy’n cael eu cyflogi i weithgynhyrchu offer arbelydru, electrofeddygol ac electrotherapiwtig, offerynnau meddygol a deintyddol, cyflenwadau a pharatoadau fferyllol.

Mae’r sector wedi’i gefnogi’n dda gan brifysgolion y rhanbarth, sy’n gartref i ymchwil arbenigol flaenllaw gydag elfen fasnachol gref. Mae arbenigedd ymchwil yn y Gwyddorau Bywyd ledled Cymru yn cael ei ddwyn ynghyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd. Mae’r Rhwydwaith wedi cefnogi ystod eang o weithgareddau therapiwtig mewn cydweithrediad â mwy na 300 o bartneriaid ymchwil o ddiwydiant, elusennau, y GIG a phrifysgolion rhyngwladol eraill.

 

Mae’r sector gwyddorau bywyd yng Nghaerdydd hefyd yn elwa ar y cyngor, y cymorth a’r cyfleoedd busnes a gynigir i aelodau MediWales.  Mae’r rhwydwaith yn hyrwyddo cydweithredu o fewn y gymuned gwyddorau bywyd a thechnoleg iechyd ac yn hwyluso mynediad at gyfleoedd masnach byd-eang ac at arbenigedd clinigol. Drwy eu Hacademi Gwyddorau Bywyd, mae MediWales yn cysylltu cwmnïau â myfyrwyr a graddedigion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ac yn cynnal cyrsiau hyfforddi i wella sgiliau allweddol o fewn y sector.

Yn ogystal, bu buddsoddiad sylweddol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n ganolfan nerfol ar gyfer sefydliadau academaidd a gofal iechyd, busnesau, cynghorwyr arbenigol, sefydliadau clinigol ac ariannu. Mae’r Ganolfan yn ceisio ysgogi rhyngweithio, arloesi, rhwydweithio a chydweithredu, gan wneud y cysylltiad rhwng syniadau a masnacheiddio yn realiti a darparu adnodd a yrrir yn fasnachol ar gyfer y sector.

 

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr heddiw a chewch yr holl newyddion, cyfleoedd a chynnwys diweddaraf gan Cyfoethogi Caerdydd