Ydych chi’n gymwys i wneud cais am un o’r Cronfeydd Twf Lleol newydd?

Mae’r Cronfeydd Twf Lleol newydd hyn ar gael ar hyn o bryd i gefnogi busnesau Caerdydd gyda grantiau o £2,500 hyd at £20,000.

Bydd ceisiadau busnes yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiadau sy’n cysylltu â Strategaeth Adferiad Cryfach, Tecach a Gwyrddach y ddinas ac sy’n bodloni’r meini prawf penodedig. Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at lesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Caerdydd.

Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad

Bydd y Gronfa Twf Lleol (LGF) newydd yn cefnogi lleoliadau presennol i fuddsoddi yn eu lleoliad i'w wneud yn fwy cynaliadwy yn ariannol neu'n amgylcheddol.

Cronfa Twf Caerdydd

Bydd Cronfa Twf Caerdydd newydd y GTLl yn cefnogi busnesau i ail-lansio, datblygu a thyfu. Mae'r cyllid yn rhoi cyfle i roi hwb i'r economi a’i thyfu gan ganolbwyntio ar greu dyfodol tecach, gwyrddach a llewyrchus i fusnesau Caerdydd.

Cronfa Twf Glanfa'r Iwerydd

Bydd Cronfa Twf Glanfa'r Iwerydd y GTLl yn cefnogi busnesau o fewn ward Butetown i ail-lansio, datblygu, tyfu a gwneud y mwyaf o'r cyfle a ddarperir gan fwy o ymwelwyr, gwariant a gwelededd o ganlyniad i ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd.

*Noder bod pob cronfa yn amodol a’r Gyngor dderbyn cymeradwyaeth y gyllideb derfynol.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Tanysgrifiwch heddiw i gael y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a llawer mwy gan Cyfoethogi Caerdydd.