Lled-ddargludyddion Cyfansawdd sydd yn cynnig y dechnoleg sydd wrth wraidd mwyafrif y cynhyrchion a’r gwasanaethau technoleg uwch heddiw, gan gynnwys ffonau clyfar, synwyryddion, a chyfathrebu ffibr-optig. Maent yn gweithredu ar gyflymder llawer uwch na’r lled-ddargludyddion traddodiadol sy’n seiliedig ar silicon ac maent yn cynnig nodweddion ffotonig a ddefnyddir mewn amrywiaeth o dechnolegau synwyryddion a chyfathrebu optig. Lled-ddargludyddion ar ffurf lled-ddargludyddion cyfansawdd a silicôn, sy’n ffurfio calon llawer o dechnolegau heddiw. Heb led-ddargludyddion, ni fyddai llawer o ddyfeisiau a chymwysiadau rydym yn dibynnu arnynt yn bodoli, ac eto ni sylwir llawer ar y deunyddiau hyn sydd wedi’u peiriannu’n atomig ymhlith y brandiau defnyddwyr terfynol rydym mor gyfarwydd â hwy.

 

Bydd y genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion, lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cael eu defnyddio ym mhopeth o 5G i’r Rhyngrwyd Pethau, gan gymryd roboteg, gofal iechyd, cerbydau awtonomaidd ac effeithlonrwydd ynni i mewn ar hyd y ffordd. A’r newyddion da yw bod de-ddwyrain Cymru ar flaen y gad o ran datblygu, gyda chlwstwr o’r radd flaenaf yn dod i’r amlwg yng Nghaerdydd a’r ddinas-ranbarth o’i chwmpas. Mae cwmnïau arloesol fel IQE eisoes wedi hen ennill eu plwyf yma, gan weithio’n agos gyda Phrifysgol Caerdydd yn y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr heddiw a chewch yr holl newyddion, cyfleoedd a chynnwys diweddaraf gan Cyfoethogi Caerdydd