Mae sector creadigol Caerdydd, sy’n tyfu’n gyflym, yn ifanc, yn llawn crebwyll ac mewn cysylltiad. Mae’r ddinas yn meithrin cymuned sy’n  cofleidio technolegau digidol newydd ac arloesedd digidol, gan ei wneud yn un o’r sectorau creadigol mwyaf llwyddiannus y tu allan i Lundain. Rydym yn arloeswyr o ran cydleoli sgiliau creadigol a thechnegol sydd wedi creu dinas sy’n ganolbwynt i sector diwydiannau creadigol Cymru gyda chryfderau penodol yn y meysydd darlledu, teledu a chynhyrchu ffilmiau. Denir crynhoad sylweddol o gwmnïau creadigol i Gaerdydd, wedi’u oherwydd presenoldeb darlledwyr mawr fel y BBC, ITV ac S4C a’r gefnogaeth a gânt gan ragoriaeth academaidd y ddinas.

Yn ogystal â bod yn lleoliad gwych i bwysigion y sector creadigol, mae Caerdydd hefyd yn gartref i gymuned gynyddol o fusnesau newydd creadigol sydd wedi bod yn cynyddu o ran maint a hyder.  Mae’r ddinas yn elwa ar rwydwaith sy’n tyfu’n gyflym o stiwdios artistiaid, canolfannau creadigol a mannau cydweithio, o’r Gloworks newydd yng nghalon Bae Caerdydd, Tramshed Tech, Rabble Studio ac Indycube, yn ogystal â lle yng Nghanolfan Technoleg Fusnes sefydledig Caerdydd.

Gyda lefel uchel o gysylltedd a seilwaith digidol, mae sylfaen greadigol y ddinas yn feiddgar, yn arloesol ac yn arbrofol gan wneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd creadigol mwyaf deinamig ym Mhrydain.

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr heddiw a chewch yr holl newyddion, cyfleoedd a chynnwys diweddaraf gan Cyfoethogi Caerdydd