Economi amrywiol Caerdydd yw un o’r rhai mwyaf cystadleuol yn Ninasoedd Craidd y DU.  Heddiw, mae 211,000 o bobl yn cael eu cyflogi yng Nghaerdydd a thros 630,000 yn y Brifddinas-Ranbarth eang. Mae gan ein sectorau allweddol glystyrau twf sylweddol o weithgarwch a chapasiti.

GWASANAETHAU BUSNES A PHROFFESIYNOL

Cyflogir dros 1 o bob 4 o weithlu’r ddinas yn y sector.   Gyda phencadlys nifer o wasanaethau blaenllaw ariannol a thechnoleg ariannol yn y ddinas, mae Caerdydd wedi dod i’r amlwg fel lleoliad allweddol ar gyfer busnesau ariannol.

GWASANAETHAU CREADIGOL

Mae ein sector creadigol sy’n tyfu’n gyflym yn cynnwys popeth o gynhyrchu teledu i ffilm, animeiddio, gemau, pensaernïaeth, ffotograffiaeth, dylunio a hysbysebu i gwmnïau sydd yn dod o hyd i ddatrysiadau newydd mewn seiber-ddiogelwch, technoleg ariannol a thechnolegau digidol.

GWYDDORAU BYWYD

Mae gan Gaerdydd un o’r clystyrau gwyddorau bywyd mwyaf cystadleuol yn y DU ac fe’i cefnogir yn dda gan brifysgolion y rhanbarth sy’n gartref i arbenigedd ymchwil o’r radd flaenaf gyda rhagolygon masnachol cryf.

.

TECHNOLEGAU ARIANNOL

Mae Caerdydd yn ganolfan i lwyddiant Technoleg Ariannol ac mewn sefyllfa unigryw i ddod yn brif ganolfan technoleg ariannol y tu allan i Lundain, gan gynnwys arloesoedd digidol o ran twf InsureTech a RegTech

GWEITHGYNHYRCHU UWCH

Mae gan Gaerdydd sector gweithgynhyrchu uwch ffyniannus gydag arbenigeddau yn amrywio o electroneg, i gynhyrchu dur o’r radd flaenaf.   Rydym yn meddu ar arbenigedd mewn wafferi awyrofod, lled-ddargludyddion a’r sectorau modurol, i gyd yn cael eu cefnogi gan brifysgolion y ddinas, sydd â chysylltiadau agos â busnes a masnacheiddio ymchwil.

Lled-ddargludyddion cyfansawdd

Lled-Ddargludyddion Cyfansawdd sy’n darparu’r dechnoleg sylfaenol y tu ôl i’r rhan fwyaf o gynhyrchion uwch-dechnoleg heddiw ac mae Caerdydd yn gartref i IQE, sy’n cynhyrchu ac yn cyflenwi wafferi lled-ddargludyddion cyfansawdd pwrpasol i’r prif gwmnïau gweithgynhyrchu sglodion.

Cadw mewn cysylltiad

Tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr heddiw a chewch yr holl newyddion, cyfleoedd a chynnwys diweddaraf gan Cyfoethogi Caerdydd