Mae gan Gaerdydd sector gweithgynhyrchu uwch ffyniannus, wedi’i gefnogi gan gysylltiadau ag addysg uwch a gweithlu medrus mewn technegau gweithgynhyrchu. Mae arbenigeddau’n amrywio o electroneg, i gynhyrchu dur o’r radd flaenaf yn Ffwrnais Arc Trydanol mwyaf effeithlon Ewrop yn Celsa Steel UK. Cyflogir tua 9,000 o bobl mewn gweithgynhyrchu uwch yng Nghaerdydd, gyda llawer mwy yn cael eu cyflogi mewn sectorau cefnogi.
Cefnogir y sector hefyd gan brifysgolion y ddinas, sydd â chysylltiadau agos â busnes a masnacheiddio ymchwil. Mae’r Ganolfan Systemau Gweithgynhyrchu Uwch yng Nghaerdydd (CAMSAC) yn un enghraifft, canolfan ymchwil a sefydlwyd i adeiladu’n uniongyrchol ar enw da presennol Caerdydd am ymchwil sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu sy’n arwain yn rhyngwladol.
Ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mae ystod eang o arbenigedd hefyd mewn sectorau gan gynnwys awyrofod ac amddiffyn, gyda busnesau fel GE Aviation, British Airways, Airbus Defence and Security, BAE Systems, a General Dynamics yn meddu ar bresenoldeb yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae sectorau eraill sydd â phresenoldeb sylweddol yn cynnwys y sector modurol, lle mae ffocws penodol ar ymchwil carbon isel, gyda busnes a’r byd academaidd yn cydweithio, megis cydweithrediad Sefydliad Ynni Prifysgol Caerdydd â Ricardo a Qinetiq ar danwyddau a thechnolegau amgen.