Ynglŷn â Chaerdydd, y prif wahaniaeth

CYSTADLEUOL

Mae Caerdydd yn rhoi manteision cost clir gyda chostau gweithredu cystadleuol o'u cymharu â dinasoedd mawr eraill y DU. Gyda sicrwydd o weithlu mawr a medrus, mae gan y ddinas a'r rhanbarth cyfagos gynnig hynod ddeniadol.

ANSAWDD BYWYD

Mae ansawdd bywyd yn un o fanteision cystadleuol mawr Caerdydd a’r Rhanbarth cyfagos. Cydnabyddir Caerdydd yn gyson fel un o'r dinasoedd gorau i fyw ynddi gan drigolion, ac yn yr arolwg ar Ansawdd Bywyd mewn Dinasoedd Ewropeaidd, Caerdydd enillodd y bleidlais am fod yn Ddinas Graidd Orau y DU o ran ansawdd bywyd.

SGILIAU

Gyda 69% o boblogaeth Caerdydd o oedran gweithio, a mynediad i bron i filiwn o bobl o oedran gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth y ddinas, mae galw mawr am ein gweithlu. Mae Caerdydd hefyd yn elwa o un o'r cyfrannau mwyaf o raddedigion yng ngweithlu unrhyw ddinas yn y DU gyda 55% o'r gweithlu â chymhwyster NVQ4+ neu uwch, ac mae mwy na thraean o raddedigion y ddinas yn dewis aros a gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn yr hirdymor.

CYSYLLTIEDIG

Mae Caerdydd mewn sefyllfa strategol gref gyda mynediad rhagorol i'r draffordd genedlaethol a rhwydweithiau’r brif reilffordd. Bydd y buddsoddiad metro gwerth £1 biliwn yn arwain at gynnydd sylweddol o ran cyflymder, capasiti ac amlder system drafnidiaeth y dinas-ranbarth a bydd yn gwneud y ddinas hyd yn oed yn fwy hygyrch a deniadol i fod ynddi. Lawrlwythwch ein cyhoeddiad gwybodaeth, Caerdydd: Ein Prifddinas Gystadleuol, sy'n rhoi cipolwg manwl ar Gaerdydd a’i busnesau.

Cadw mewn cysylltiad

Tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr heddiw a chewch yr holl newyddion, cyfleoedd a chynnwys diweddaraf gan Cyfoethogi Caerdydd