
Gyda phencadlys nifer o wasanaethau blaenllaw ariannol a thechnoleg ariannol yn y ddinas, mae Caerdydd wedi dod i’r amlwg fel lleoliad allweddol ar gyfer busnesau ariannol.
O’i gymharu â Dinasoedd Craidd eraill y DU, cynrychiolir ystod eang o fusnesau yn y sector gwasanaethau proffesiynol yng Nghaerdydd. Noda ymchwil gan Lywodraeth Cymru mai Caerdydd yw’r lleoliad dewisol ar gyfer canolfannau cyswllt a rhannu gwasanaeth yn y DU, ac mae gan y ddinas enw da cynyddol o ran AD, gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau corfforaethol eraill. Mae sector ariannol llewyrchus Caerdydd yn cynnwys nifer gynyddol o gwmnïau yswiriant a phensiwn sy’n ymgartrefu yn y ddinas. Mae cyflogaeth mewn yswiriant yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU, gyda chyfran y bobl sy’n cael eu cyflogi mewn yswiriant bywyd saith gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU.

Mae nifer o gwmnïau gwasanaethau ariannol a gydnabyddir yn rhyngwladol, rhai o gwmnïau cyfrifyddiaeth mwyaf y DU a chwmnïau lleol wedi ehangu eu gweithrediadau yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Ymhlith y rhain mae Admiral, a lansiwyd yng Nghaerdydd ym 1993 gyda 57 o staff a dim cwsmeriaid. Erbyn hyn mae ganddo drosiant o fwy nag £1 biliwn, mae’n cyflogi 10,000 o bobl mewn wyth gwlad ac mae ganddo dros 6 miliwn o gwsmeriaid ledled y byd. Cefnogwyd twf Admiral gan addysg uwch yn y ddinas, sydd nid yn unig yn darparu llif cyson o raddedigion medrus, ond sydd hefyd yn gweithio’n agos gyda busnes i gynllunio a llunio cyrsiau ar gyfer y sector yn y dyfodol.
