SUT GALLWN NI HELPU?
P’un a ydych yn chwilio am safleoedd busnes, mynediad at gyllid, yn gwybod ble i fynd i ddod o hyd i’r dalent gywir sydd ei hangen arnoch, rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Byddwn yn gweithio gyda chi i wneud symud i’r ddinas mor ddidrafferth â phosibl i chi drwy gynnig cymorth busnes penodol i chi a allai gynnwys:
- Rheolwr cyfrif mewnfuddsoddi penodol i chi drwy’r holl broses a’r tu hwnt gan barhau i gynnig gofal i chi i’ch helpu i ymsefydlu ac yna tyfu eich busnes yng Nghaerdydd
- Ymchwil arbenigol trylwyr gan gynnwys cymariaethau cost a meincnodi yn erbyn cynigion buddsoddi eraill i gefnogi eich achos busnes
- Cynnal eich ymchwil am eiddo, rhoi cyfarwyddiadau i’n partneriaid eiddo masnachol a chynghori ar gostau a lleoliadau posibl
- Cyngor a chymorth i ddod o hyd i gymorth ariannol
- Cymorth am ddim gyda recriwtio a hyfforddi gan ein tîm arbenigol i Mewn i Waith
- Trefnu ymweliadau ymgyfarwyddo i staff allweddol
- Cyflwyniadau i rwydweithiau busnesau lleol, canolfannau ymchwil a datblygu a Phrifysgolion
- Mynediad at wasanaethau statudol awdurdod lleol megis cynllunio ac ardrethi busnes
Felly beth bynnag sydd ei angen arnoch, o wybodaeth a chyflwyniadau i help a chyngor, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar a chefnogol.
E-bost: hello@investincardifff.com
Ffôn: +44 (0) 29 2087 8421
Trydarwch ni @InvestinCardiff
Dilynwch ni ar LinkedIn: InvestinCardiff
CWRDD Â’R TÎM
cysylltwch â ni
CADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Tanysgrifiwch heddiw i gael y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a llawer mwy gan Cyfoethogi Caerdydd.