Bydd Cronfa Twf Caerdydd newydd y LGF yn cefnogi busnesau i ail-lansio, datblygu a thyfu.  Mae’r cyllid yn rhoi cyfle i roi hwb i’r economi a’i thyfu gan ganolbwyntio ar greu dyfodol tecach, gwyrddach a llewyrchus i fusnesau Caerdydd.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y cronfa hon?

Bydd y gronfa newydd ar gael i gwmnïau o fewn Awdurdod Lleol Caerdydd sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol gofrestredig neu elusen. Yn anffodus, nid yw Unig Fasnachwyr yn gymwys.
  • Gyda throsiant gweithredu yn ystod y 3 blynedd diwethaf uwchlaw’r trothwy TAW (£90,000).
  • Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am dros 2 blynedd.
  • Cyfeiriad busnes Caerdydd.
  • BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn).

Bydd ceisiadau busnes yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiadau sy’n cysylltu â Strategaeth Adfer Cryfach, Tecach, Gwyrddach y ddinas, ac sy’n cyflawni’r canlynol:

  • Creu swyddi a diogelu swyddi – bydd hyn yn cael ei fonitro dros gyfnod o 12 mis.
  • Twf mewn cynhyrchiant, gan sicrhau cynnydd mewn trosiant neu gyfran o’r farchnad.
  • Mwy o hygyrchedd a chyfleoedd i gymunedau lleol.

Beth yw’r Cyllid?

Bydd Cronfa Twf Caerdydd yn cynnwys: 

  • Grantiau £2,500 i £20,000.
  • Ar gael i fusnesau sydd â chyfeiriad busnes cofrestredig yng Nghaerdydd.
  • Angen 2 ddyfynbris ar gyfer gwariant y prosiect.
  • Bydd y grant yn 50% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW.
  • Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau nac ymrwymo i’w prynu cyn cael cymeradwyaeth.

Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Caerdydd.

SUT I GYSYLLTU Â NI

Os gwelwch yn dda cysylltwch â ni trwy e-bost i gael rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a manylion ymgeisio.

Byddwn yn ystyried ceisiadau dros £20,000 am brosiectau strategol​ sy’n canolbwyntio ar greu swyddi a buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf mawr.

Gallwch ddysgu mwy drwy ebostio cronfatwfcaerdydd@caerdydd.gov.uk.​

*Noder bod y gronfa yn amodol a’r Cyngor dderbyn cymeradwyaeth y gyllideb derfynol.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Tanysgrifiwch heddiw i gael y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a llawer mwy gan Cyfoethogi Caerdydd.