Mae ailddatblygu Glanfa’r Iwerydd yn flaenoriaeth strategol allweddol i’r ddinas, gyda gwaith eisoes ar y gweill ar yr arena dan do newydd â lle i 16,500 o bobl. Bydd Cronfa Twf Glanfa’r Iwerydd y GTLl yn cefnogi busnesau o fewn ward Butetown i ail-lansio, datblygu, tyfu a gwneud y mwyaf o’r cyfle a ddarperir gan fwy o ymwelwyr, gwariant a gwelededd o ganlyniad i ailddatblygu Glanfa’r Iwerydd.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y gronfa hon?

Bydd y gronfa newydd ar gael i gwmnïau Butetown sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol, CBC cofrestredig neu elusen.  Yn anffodus, nid yw Unig Fasnachwyr yn gymwys.
  • Gyda throsiant gweithredu yn ystod y 3 blynedd diwethaf uwchlaw’r trothwy TAW (£90,000).
  • Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu ers dros 2 flynedd.
  • Busnes wedi’i leoli yn ward Butetown ac sydd â chyfeiriad yno.
  • BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn).

Bydd ceisiadau busnes yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiadau sy’n cysylltu â Strategaeth Adfer Cryfach, Tecach, Gwyrddach y ddinas, ac sy’n cyflawni’r canlynol:

  • Creu Swyddi a diogelu swyddi – bydd hyn yn cael ei fonitro dros gyfnod o 12 mis.
  • Twf mewn cynhyrchiant, gan sicrhau cynnydd mewn trosiant neu gyfran o’r farchnad.
  • Mwy o hygyrchedd a chyfleoedd i gymunedau lleol.

Beth yw’r Cyllid?

Bydd y Gronfa Twf yn cynnwys:

  • Grantiau o £1,000 i £20,000
  • Ar gael i fusnesau sydd â chyfeiriad busnes cofrestredig yn ward Butetown
  • Angen 2 ddyfynbris ar gyfer gwariant y prosiect
  • Bydd y grant yn 75% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW
  • Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau na bod wedi ymrwymo i’w prynu cyn cael cymeradwyaeth.

Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Caerdydd.

SUT I GYSYLLTU Â NI

Cysylltwch â ni drwy e-bost am ragor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a manylion y cais.

Byddwn yn ystyried ceisiadau dros £20,000 ar gyfer prosiectau strategol sy’n canolbwyntio ar greu swyddi a buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf mawr.

I gael gwybod mwy, e-bostiwch CronfaTwfCaerdydd@caerdydd.gov.uk

*Sylwch fod y gronfa yn amodol ar y Cyngor yn derbyn cymeradwyaeth i’r gyllideb derfynol.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Tanysgrifiwch heddiw i gael y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a llawer mwy gan Cyfoethogi Caerdydd.