Y brand yswiriant teithio blaenllaw All Clear yn agor swyddfa yng nghaerdydd - cyhoeddi cynlluniau i greu 100 o swyddi newydd -

Heddiw, mae AllClear Group, un o’r cwmnïau teithio sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, yn cyhoeddi y bydd yn agor safle newydd yng Nghaerdydd. Mae 38 o swyddi newydd eisoes wedi’u creu gan AllClear yn y ddinas, a fydd yn codi i fwy na 100 yn ystod y misoedd nesaf.

 

AllClear yw’r darparwr yswiriant teithio arbenigol gorau ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol. Ers dros 20 mlynedd, mae AllClear wedi helpu i yswirio mwy na thair miliwn o ddeiliaid polisi, gyda chwsmeriaid ledled y DU, Iwerddon ac Awstralia. Mae’r busnes wedi ennill llawer o wobrau’r diwydiant, gyda chynhyrchion sydd wedi cael 5 seren gan Defaqto a gwasanaeth o’r radd flaenaf. Y llynedd, caffaelodd AllClear Group InsureandGo gan y cwmni yswiriant byd-eang MAPFRE Asistencia. Mae’r fargen wedi mwy na dyblu maint AllClear Group fel un o’r prif rymoedd ym marchnad yswiriant teithio’r DU ac wedi atgyfnerthu cynnig sydd eisoes yn gryf sy’n seiliedig ar ansawdd, ymddiriedaeth ac arbenigedd.

 

Er gwaethaf tarfu diweddar ym meysydd awyr, mae’r farchnad deithio rhyngwladol yn ailagor ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau oherwydd y pandemig ac mae gan AllClear Group gynlluniau cadarn ar waith i dyfu busnesau AllClear ac InsureandGo yn 2022 a thu hwnt. Bydd yr eiddo newydd yng Nghaerdydd yn helpu’r busnes i adeiladu ar ei sgiliau profedig o ran darparu gwasanaeth cwsmeriaid ac arloesedd technoleg penigamp.

 

Cefnogwyd y symud i Gaerdydd gan Gyngor Caerdydd, y mae ei dîm wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu AllClear i ddod o hyd i swyddfeydd i wneud cysylltiadau â chyflenwyr a phartneriaid lleol.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: “Rydym yn falch iawn o weld AllClear yn cyfoethogi Caerdydd, mae’n rhan o glwstwr gwasanaethau ariannol a phroffesiynol sy’n tyfu yma yn y brifddinas ac rydym yn gobeithio’n fawr y bydd yn parhau i dyfu a chreu llawer o swyddi newydd.”

 

Dywedodd Chris Rolland, Prif Swyddog Gweithredol AllClear Group: “Er gwaethaf cyfnod COVID heriol iawn i’r diwydiant teithio, mae AllClear Group yn barod i ddychwelyd i deithio ac i helpu mwy o gwsmeriaid nag erioed o’r blaen.  Ein swyddfa newydd yng Nghaerdydd fydd y pedwerydd safle ar gyfer Gweithrediadau AllClear Group yn y DU ac mae’n gam beiddgar arall i un o’r cwmnïau teithio sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.  I ddathlu’r lansiad hwn hoffem gynnig 20% i bawb yn Ninas Caerdydd oddi ar ein prisiau sylfaenol dros y pedair wythnos nesaf – mae hyn yn berthnasol i unrhyw gynnyrch Yswiriant Teithio â brand AllClear. Defnyddiwch y cod LAUNCH20”

 

“Dewiswyd Caerdydd gennym ar gyfer ein swyddfa newydd gan fod gan y ddinas hanes balch o gefnogi busnesau a meithrin diwylliant cadarnhaol o arloesi a menter. Hoffwn ddiolch i dîm Cyngor Caerdydd sydd wedi bod yn bartner yng ngwir ystyr y gair. Mae wedi gweithio’n galed iawn i’n helpu i symud i’r ddinas ac i wneud cysylltiadau â nifer o gyflenwyr allweddol.  Fel busnes, ein nod yw rhoi’n ôl drwy fuddsoddi yn iechyd economaidd y ddinas – fel hyb ar gyfer arloesi busnes – ac rydym yn falch iawn o greu cyfleoedd cyflogaeth yn y ddinas a’r cyffiniau.”