Llywodraeth Cymru'n Lansio Strategaeth Digwyddiadau Uchelgeisiol newydd i Gymru

 

Mae strategaeth newydd i helpu i greu swyddi a lledaenu ffyniant economaidd drwy annog ystod eang o ddigwyddiadau Cymreig llwyddiannus, cynaliadwy a dilys ledled Cymru wedi cael ei lansio.

Mae Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022-2030 yn adeiladu ar dwf digynsail digwyddiadau yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi cefnogi digwyddiadau o bob math a maint – gan gynnwys digwyddiadau rhyngwladol mawr fel Cwpan Ryder yn 2010, Womex 2013, Uwchgynhadledd NATO yn 2014, Profion Cyfres y Lludw, Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017, a chymal o Ras Fôr Volvo yn 2018.  Rydym hefyd wedi denu digwyddiadau busnes megis y Farchnad Teithio Golff Ryngwladol ac rydym wedi gweld datblygu gwyliau arbennig Cymreig fel Focus Wales, Tafwyl a Steelhouse.ic Service Broadcasting 41 at FOCUS Wales 2022 Credit Kev Curtis

Mae’r strategaeth newydd wedi’i datblygu mewn partneriaeth â’r diwydiant digwyddiadau a’i bwriad yw annog digwyddiadau rhagorol, traws-Gymru sy’n cefnogi lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl, lleoedd a’r blaned.   Ei nod yw sicrhau bod digwyddiadau’n ehangu ar y cyfraniad y maent yn ei wneud at saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae’r strategaeth yn ceisio annog digwyddiadau o bob math a maint ym mhob cwr o Gymru, ymhob tymor ac yn gynrychioliadol o ddiwylliant Cymru.

Mae wedi ei seilio ar dair prif thema:

Alinio’r diwydiant: Er mwyn bod yn wydn a llewyrchus, bydd y diwydiant yn datblygu llais cryf sy’n sicrhau bod yr holl randdeiliaid wedi’u halinio ac yn gweithio ar y cyd tuag at ganlyniadau cyffredin.

Dilysrwydd: Bydd gan ddigwyddiadau yng Nghymru Gymreictod penodol beth bynnag fo’u maint, graddfa, neu leoliad.  Bydd hyn yn cynnwys yr iaith Gymraeg, ac yn adlewyrchu Brand Cymru a meini prawf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cymru Gyfan: Bydd y diwydiant yn gwneud yn fawr o’r asedau presennol, yn lledaenu digwyddiadau ledled Cymru a thrwy gydol y flwyddyn, ac yn anelu at sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant.

Bydd y strategaeth yn cael ei hadeiladu o amgylch pobl, lle a’r blaned. Byddwn ni nawr yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector ar gynllun gweithredu manwl fydd â’r nod o greu cyfleoedd gwaith o fewn y sector a datblygu sylfaen sgiliau pobl sy’n gweithio yn y diwydiant, drwy rannu gwybodaeth a darparu cyfleoedd hyfforddiant.

Mae’r strategaeth yn argymell nodi a hyrwyddo asedau naturiol Cymru, fel arfordiroedd a thirwedd, fel y gellir eu cynnwys yn y gwaith o gyflawni a hyrwyddo digwyddiadau yng Nghymru.

Mae cynaliadwyedd wrth galon y strategaeth, gyda threfnwyr digwyddiadau yn cael eu hannog i ystyried yr adnoddau a’r deunyddiau y maent yn eu defnyddio, ac o ble maent yn dod.

Heddiw, daeth rhanddeiliaid o’r sector digwyddiadau ynghyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd i drafod y ffordd ymlaen a gweithredu’r strategaeth newydd.

Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Fy mlaenoriaeth i fel Gweinidog yr Economi yw creu economi fwy llewyrchus yng Nghymru. Rydyn ni am i Gymru fod yn wlad lle nad oes rhaid i bobl adael er mwyn gwneud cynnydd yn eu bywydau.  Dyna pam rydyn ni’n benderfynol o greu swyddi da yn y cymunedau mae pobl yn byw ynddyn nhw.

“Mae Cymru’n adnabyddus am ein croeso cynnes Cymreig a’n lletygarwch eithriadol. Mae’r hyn a gyflawnwyd dros yr ugain mlynedd diwethaf o ran cynnal a chyflwyno digwyddiadau yng Nghymru yn rhyfeddol. O fod yn wlad nad oedd yn adnabyddus iawn am gynnal digwyddiadau – rydym bellach wedi cyrraedd aeddfedrwydd gyda phrofiad helaeth a rhestr drawiadol o lwyddiannau yn arwain at enw da o ran cynnal digwyddiadau.

“Wrth gwrs, fe wnaeth Covid dorri ar draws y twf yma, a ddylen ni ddim diystyru effaith y pandemig. Y sector digwyddiadau oedd un o’r cyntaf i gau, a’r olaf i agor. Cafodd pwysigrwydd digwyddiadau i’r economi ymwelwyr a llesiant y genedl ei gydnabod gan y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i’r sector o dan y Gronfa Adferiad Diwylliannol a’r ymgysylltu agos, agored a chadarn a oedd gennym gyda rhanddeiliaid yn ystod y pandemig.

“Roedd y lefel honno o ymgysylltu a chydweithio hanfodol rhwng y sector a’r Llywodraeth yn un o’r ychydig bethau positif a ddaeth o’r pandemig. Bydd ein gwaith nawr yn parhau i ddefnyddio’r partneriaethau a ffurfiwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf – mae hon yn strategaeth i’r sector cyfan – er mwyn i ni gyflawni gyda’n gilydd – a gwneud i bethau rhyfeddol ddigwydd mewn mannau anarferol ac annhebygol.

“Rydym yn awr yn edrych ymlaen nawr at ddegawd uchelgeisiol arall i’r sector Digwyddiadau yng Nghymru.”

Dywedodd Steve Hughson, o’r Sioe Frenhinol a chynrychiolydd Grŵp Ymgynghorol Diwydiant Digwyddiadau Cymru:

“Rydym yn croesawu’r strategaeth hon sy’n ymrwymo Llywodraeth Cymru at barhau i gefnogi ein sector digwyddiadau bywiog sy’n adfer yn gryf ar ôl y pandemig. Mae lansio’r strategaeth hon yn amserol o gofio’r heriau, y costau cynyddol, y prinder staff a’r problemau o ran y gadwyn gyflenwi sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd, ac fe lwyddodd y sector digwyddiadau i wneud y pwyntiau pwysig hyn wrth iddo gyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r strategaeth. Byddwn nawr yn adeiladu ar berthnasoedd cryf a ffurfiwyd yn ystod y pandemig i greu cynllun gweithredu y gellir ei gyflawni ac sy’n gweithio i’r rhanddeiliaid i gyd.”