Gŵyl Sŵn Caerdydd Na Ddylid ei Cholli yn Dychwelyd ar ei Graddfa Lawn am y Tro Cyntaf Ers 2019
Yn sgîl Caerdydd yn cynnal Gŵyl 6Music y BBC eleni, bydd Gŵyl Sŵn yn dychwelyd ym mis Hydref eleni am y tro cyntaf ers 2019, gan gwblhau’r hyn sydd wedi bod yn flwyddyn anhygoel i gerddoriaeth Cymru.
Yn prysur datblygu’n un o’r uchafbwyntiau na ddylid ei golli yng nghalendr cerddoriaeth newydd y DU, mae Gŵyl Sŵn Caerdydd, sy’n cael ei chynnal ar draws prifddinas Cymru rhwng 21 a 23 Hydref, heddiw yn cyhoeddi’r rhestr gyntaf o enwau ar gyfer 2022.
Mae’r ŵyl yn cyflwyno cymysgedd perffaith o artistiaid sefydledig a newydd ar gyfer dathliad o natur amrywiol a chyffrous cerddoriaeth Prydain a’r tu hwnt.
Wrth siarad am yr ŵyl eleni, dywedodd rheolwr cerddoriaeth fyw Clwb Ifor Bach a Gŵyl Sŵn, Adam Williams,
“Ni allaf bwysleisio faint mae fy nhîm yn y Clwb a minnau’n edrych ymlaen at ddod â Gŵyl Sŵn yn ôl yn 2022 ar ei ffurf lawnaf. Rydym yn hynod falch o rannu cam cyntaf gŵyl 2022 â chi. Mae trefnu’r rhestr o berfformwyr bob amser yn gymaint o bleser ac rydym yn dal i ryfeddu at faint o artistiaid newydd sydd bob blwyddyn. Mae mor anodd eu cynnwys nhw i gyd. Sawl band sy’n ormod o fandiau?
“Mae’r ŵyl bob amser wedi arddangos, a bydd yn parhau i arddangos, pwy, yn ein barn ni, fydd y prif berfformwyr mewn gwyliau mawr yn y dyfodol – artistiaid rhyngwladol ac artistiaid Cymru. Eleni, bydd Caerdydd yn cynnal dros 120 o artistiaid ar draws 9 lleoliad. Gallwch ddisgwyl lleoedd newydd, wynebau cyfeillgar a llawer o binc!”
Cynhelir noson agoriadol yr ŵyl ddydd Gwener 21 Hydref yn y Tramshed sydd â lle i 1000 o bobl ac mae’n addo bod yn ddechrau anhygoel i’r ŵyl. Mae BC Camplight yn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer eu sioe fwyaf fel prif berfformwyr hyd yma ym mhrifddinas Cymru, ynghyd ag amrywiaeth eclectig o glasuron canwyr-gyfansoddwyr, synth-pop a roc y 50au.
Yn ymuno â nhw mae arwyr Caerdydd Panic Shack sy’n parhau â’u 2022 llwyddiannus gyda llawer o anthemau indie-pync ardderchog. Dywedon nhw,
“Mae gan Sŵn le arbennig yn ein calonnau. Cawsom slot yn 2019 pan oeddem yn newydd iawn ar y sîn, ar ôl dim ond llond llaw o sioeau. Buom yn chwarae lawr y grisiau yng Nghlwb Ifor Bach a oedd dan ei sang a chawsom ein syfrdanu gan y profiad. Mae’n dal i fod yn uchel ar ein rhestr fythol gynyddol o hoff atgofion.
I fod yn chwarae eto eleni, yn Tramshed (!) gyda set yn cynnwys mwy na dim ond ein 4 cân wreiddiol a’r cwpl o ganeuon dynwared a oedd gyda ni ar y dechrau yn hynod gyffrous ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei ychwanegu at y rhestr.”
Gan gadw pethau’n lleol, yn ogystal â Panic Shack uchod, mae amrywiaeth o dalent Cymreig yn cael ei harddangos gan gynnwys Aderyn, Adwaith, Breichiau Hir, Lemfrek, Ogun, Plastic Estate, Sweet Baboo, Yxngxr1, HMS Morris, Mellt, Eädyth ac Izzy Rabey.
Ymhlith y perfformwyr eraill mae un o’r perfformwyr mwyaf gafaelgar, bywiog ac egnïol ar y sîn cerddoriaeth fyw ar hyn o bryd – sef arloeswyr Cumbia o Lundain Los Bitchos – ynghyd â Sea Power o Brighton, Billy Nomates o Fryste a Bodega, sy’n dod ag awyrgylch Efrog Newydd i’r ŵyl.
Gan ychwanegu at y llu o enwau sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl eleni, cewch fwynhau ‘slowcore’ carthartig Deathcrash, yr artist bythol ysbrydoledig Alabaster DePlume, ‘shoegaze’ gafaelgar a hudolus bdrmm, celf-pop sleeze-synth gan Home Countries, indie-roc grymusol gan Lucia Glasgow a’r Best Boys, y rapiwr o Orllewin Llundain, Jelani Blackman, symffonïau ansawdd uchel Strawberry Guy, cyffro siamanaidd Snapped Ankles, y sêr-dremwyr strato-pop The Orielles, ‘krautrock’ penigamp gan TRAAMS, pop hudolus ac emosiynol gan Wesley Gonzalez a’r artist ‘motorik’ syfrdanol WH Lung.
Cadwch eich llygaid ar agor am fwy o wybodaeth am Ŵyl Sŵn wrth i fis Hydref nesáu, ond am nawr ewch i https://swnfest.com/cy/ i gael mwy o wybodaeth ac i weld opsiynau tocynnau (mae pob tocyn cynnar wedi’i werthu erbyn hyn).