DATBLYGIADAU SY’N CREU SWYDDI AR SAFLE NODEDIG AR FIN CAEL EU CYMERADWYO

 

Mae dau gais cynllunio llawn yn ymwneud ag ail gam datblygiad nodedig y Cei Canolog ar hen safle bragdy Brains yng Nghaerdydd wedi cael eu hargymell i’w cymeradwyo.

Mae’r datblygwr eiddo masnachol Rightacres yn gofyn am ganiatâd i wneud gwaith ar ddwy lain i’r gogledd ac i’r de o adeilad a simnai bragdy nodedig y safle.

Mae’r lleoliad ehangach wedi’i glirio o ddatblygiad blaenorol ac mae bellach yn wag.

Mewn perthynas â llain un, i’r gogledd o adeilad y bragdy hanesyddol, ceisir cymeradwyaeth ar gyfer datblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys 402 o fflatiau preswyl a bron i 9,000 troedfedd sgwâr o ofod llawr masnachol. Mae hyn ochr yn ochr â thirlunio, parcio a seilwaith arall, gan gynnwys rhan o ffordd fynediad ‘boulevard’ newydd a’r Sgwâr Simnai 6,000 troedfedd sgwâr.

Mae’r cynllun yn cynnwys pedwar bloc cysylltiedig o uchderau amrywiol, a’r prif strwythur canolog fydd yr elfen dalaf gyda 29 llawr.

Ar flaen y sgwâr mae plinth uchder dwbl a fydd yn darparu gofod llawr masnachol wedi’i gysylltu â’r ardal gyhoeddus, gyda dau deras to cymunedol wedi’u lleoli uwchben.

Yn ystod y gwaith adeiladu, disgwylir i’r elfen hon o’r prosiect gefnogi 427 o swyddi cyfwerth ag amser llawn uniongyrchol gros ochr yn ochr â 581 o swyddi cyfwerth ag amser llawn deilliedig.

I’r de o’r bragdy, ceisir caniatâd cynllunio ar gyfer 316 o fflatiau preswyl a thua 14,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol, ynghyd â sgwâr 16,000 troedfedd sgwâr arall. Sgwâr y Cei Canolog fydd yr enw ar hwn a bydd yn cynnwys nodwedd corff dŵr gyda llwybr troed/beicio igam-ogam a rennir drwy’r canol.

Mae’r elfen hon o’r datblygiad yn cynnwys pedwar bloc sy’n codi i uchder uchaf o 24 llawr.

Disgwylir i’r gwaith o adeiladu llain dau gefnogi 355 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol a 438 o rolau deilliedig.

Yn ôl adroddiad y bydd cynghorwyr yn craffu arno yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd y cynigion yn creu lle bywiog wedi’i dirlunio’n galed ac yn feddal ac yn creu cyswllt gweledol cadarnhaol o’r Sgwâr Canolog tuag at y Cei Canolog.

Mae cymeradwyaeth wedi’i hargymell.

Mae’r Cei Canolog yn gynllun defnydd cymysg 2.5 miliwn troedfedd sgwâr a fydd yn cynnwys fflatiau, gwestai, swyddfeydd a chynigion hamdden.