Tŷ Eastgate yng Nghaerdydd ar y farchnad am £12 miliwn

Tŷ Eastgate yng Nghaerdydd ar y farchnad am £12 miliwn

Mae Savills, ar ran Maya Capital, wedi lansio gwerthiant Tŷ Eastgate yng Nghaerdydd ar gyfer cynigion sy’n fwy na £12 miliwn. Mae’r pris gwerthu yn cynrychioli arenillion cychwynnol net o 9.69% sy’n werth cyfalaf isel o £127 fesul troedfedd sgwâr.

Mae gofod yr adeilad aml-osod yn gyfanswm o tua 95,000 troedfedd sgwâr, gan gynnwys gofod manwerthu ar y llawr gwaelod a swyddfeydd o’r llawr cyntaf i’r trydydd llawr ar ddeg. Cynhaliwyd gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd yn yr adeilad yn 2018, y tu fewn a’r tu allan, ac mae’n elwa ar amwynderau ardderchog ar y safle gan gynnwys campfa, siop goffi a maes parcio.

Yn meddiannu’r adeilad mae Prifysgol Caerdydd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Chyngor y Gweithlu Addysg. Y rhent blynyddol ar hyn o bryd yw tua £1.25 miliwn sy’n adlewyrchu rhent cyfartalog o £13.32 fesul troedfedd sgwâr. Ar hyn o bryd mae 12% o’r eiddo’n wag sy’n cynnig y cyfle i yrru incwm rhenti.

Mae Tŷ Eastgate mewn lleoliad da yng nghanol dinas Caerdydd, ar y briffordd i’r Ardal Fusnes Ganolog. Mae ganddo safle amlwg ar Heol Casnewydd ac mae wedi’i amgylchynu gan nifer o brif lwybrau bysus y ddinas ac mae o fewn pellter cerdded i Orsaf Drenau Heol y Frenhines a Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog. Mae prif ardal siopa Heol y Frenhines a Chanolfan Siopa’r Capitol ill dau o fewn pellter cerdded byr.

Meddai Ross Griffin, Cyfarwyddwr yn nhîm Buddsoddiadau Savills Caerdydd: “Mae hwn yn gyfle deniadol i gaffael adeilad swyddfa o fri yng nghanol Caerdydd sydd â meddianwyr sefydledig ar hyn o bryd a photensial rheoli asedau pellach i wella incwm rhenti.”