IQE YN MYND I MEWN I’R FARCHNAD MICRO-LED
IQE YN MYND I MEWN I’R FARCHNAD MICRO-LED
Mae cyflenwr haenellau lled-ddargludyddion uwch, IQE, wedi ymrwymo i bartneriaeth strategol gyda Porotech, arloeswr mewn technoleg lled-ddargludyddion microLED a GaN.
Dyma’r tro cyntaf i IQE fynd i mewn i’r farchnad microLED.
Ffocws y bartneriaeth yw datblygu, graddio a masnacheiddio technoleg haenellau Porotech sy’n cyflawni pob un o’r tri lliw (RGB) ar un haenell GaN 200 neu 300mm i gael microLED dwysedd uchel ac effeithlon.
Mae defnydd y dechnoleg hon yn cynnwys realiti estynedig / realiti cymysg / rhithrealiti, dyfeisiau y gellir eu gwisgo, arddangosfeydd clyfar ac arddangosfeydd golwg uniongyrchol ar raddfa fawr.
Y bwriad yw i IQE fod yn bartner ffowndri haenellau epitacsi Porotech, gan ddarparu capasiti GaN MOCVD ar gyfer cynhyrchu llwyfannau technoleg arddangosiadau micro PoroGaN Porotech. Gyda’i gilydd, bydd y cwmnïau’n datblygu ac yn cynhyrchu llwyfannau gweithgynhyrchu 200mm yn ogystal â fformatau haenellau 300mm.
Dywedodd prif weithredwr IQE, Americo Lemos: “Mae’r bartneriaeth hon yn nodi’r tro cyntaf i IQE fynd i mewn i’r farchnad microLED gyda llwyfan unigryw. Fel y nodwyd gennym ym mis Mawrth 2022, credwn fod y farchnad microLED yn cynnig cyfle sylweddol i’n busnes.”
Ychwanegodd prif weithredwr a chyd-sylfaenydd Porotech, Dr Tongtong Zhu: “Mae treftadaeth ac arloesedd dwfn IQE mewn technolegau twf epitacsi MOCVD, yn ogystal â’i allu i fasgynhyrchu, yn cael eu hoptimeiddio ar gyfer picseli microLED disgleirdeb uchel iawn sy’n cyd-fynd yn berffaith â llwyfan Porotech. Edrychwn ymlaen at gydweithio i fasnacheiddio’r datrysiad hwn.”