Datgelu cynlluniau mawr i adfywio safle Heol Dumballs yng nghanol Caerdydd
Datgelu cynlluniau mawr i adfywio safle Heol Dumballs yng nghanol Caerdydd
Mae cynlluniau mawr i adfywio safle tir llwyd yng nghanol Caerdydd wedi’u datgelu.
Gallai datblygu safle 40 erw ar Heol Dumballs greu hyd at 2,500 o gartrefi newydd ochr yn ochr â 54,000 metr sgwâr o ofod busnes.
Bydd y cynnig hefyd yn rhoi mynediad i Lan-yr-afon, gan gysylltu canol y ddinas â’r bae drwy lwybr di-dor, a bydd yn darparu cysylltiadau rhwng Grangetown a Butetown gyda llwybr beicio a phont droed newydd ar draws Afon Taf.
Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys mannau agored gyda pharc newydd ar lan yr afon a safle tacsi dŵr.
Mae’r datblygwyr Vastint UK wedi cytuno i gyfrannu cyfradd o 12.5% o dai fforddiadwy i helpu Cyngor Caerdydd. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi cytuno i werthu 8.5 erw o dir oddi ar Heol Dumballs i Vastint UK ym mis Medi 2020 i fwrw ymlaen â’r cynlluniau.
Nawr gofynnir i aelodau’r cyhoedd rannu eu barn ar y cynigion.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 19 Chwefror a disgwylir i gais cynllunio amlinellol gael ei gyflwyno ddechrau’r flwyddyn.
Dywedodd Andrew Cobden, rheolwr gyfarwyddwr Vastint UK: “Mae gan Gaerdydd afon hardd sy’n rhedeg drwy ei chanol ond mae mynediad iddi wedi bod yn gyfyngedig ers blynyddoedd lawer. Rydym yn gyffrous i gyflwyno cynigion a fydd yn rhoi bywyd newydd i lan yr afon, drwy agor mynediad iddi drwy barc newydd ar lan yr afon, a darparu cyfleoedd ar gyfer swyddi a thai newydd.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd, ein penseiri, ein tîm tirlunio a’n cynllunwyr i greu gweledigaeth a fydd, gobeithio, yn trawsnewid yr ardal hon o Gaerdydd sy’n cael ei thanddefnyddio yn ardal newydd ffyniannus i’r ddinas a’i thrigolion.
“Rydym yn croesawu adborth gan y cyhoedd fel y gallwn sicrhau bod y datblygiad hwn yn diwallu anghenion y gymuned leol.”