Canolfan Siopa Dewi Sant – Calon Caerdydd
Canolfan Siopa Dewi Sant – Calon Caerdydd
Mae canolfan siopa Dewi Sant, Caerdydd, yn fwy na dim ond cyrchfan manwerthu a hamdden 1.4 miliwn troedfedd sgwâr, dyma galon y ddinas ac mae’n chwarae rhan ganolog yn y gymuned.
A hithau’n un o’r prif gyrchfannau manwerthu yn y DU ac yn rhan o’r bartneriaeth Dewis Sant gyda Landsec, mae canolfan Dewi Sant yn cwmpasu traean o ganol prifddinas Cymru, ac yn sicrhau bod y ddinas yn parhau i feithrin ei henw da fel un o’r lleoliadau economaidd mwyaf poblogaidd yn y DU. Gyda’i chymuned fusnes gysylltiedig, lleoliadau chwaraeon rhyngwladol, cyfryngau arloesol a phoblogaeth sy’n tyfu’n gyflym, mae gan Gaerdydd ddyfodol disglair. Mae Dewi Sant yn rhan fawr o’r dyfodol hwnnw.
Dros y 12 mis diwethaf, mae siopau sy’n cwmpasu mwy na 68,000 troedfedd sgwâr wedi’u hagor, eu hadnewyddu ac wedi symud i leoliadau mwy yng nghanolfan Dewi Sant, gan gynnwys sawl cwmni byd-eang sy’n dod i Gymru am y tro cyntaf. Yn arwain y rhain i gyd mae’r cwmni ffasiwn enfawr, ZARA, sydd wedi agor siop ranbarthol 36,500 troedfedd sgwâr yn y ganolfan, y cwmni cosmetig Morphe, a Sky – sydd wedi lansio ei siop frics a morter gyntaf yng Nghymru.
Mae L’Occitane a The Body Shop wedi agor siopau sydd wedi’u hadnewyddu ac yn dilyn agor siop y brand watshis technegol moethus o’r Swistir, Breitling, mae’r gemwyr teuluol Laings wedi ychwanegu at y cynnig moethus. Mae Laings wedi buddsoddi £3m yn eu siop boutique bresennol, gan dreblu ei maint a chyflwyno brandiau megis Patek Philippe a Rolex i westai Dewi Sant am y tro cyntaf y Gwanwyn hwn.
“Roeddem yn gwybod ein bod am i dewi sant chwarae rhan annatod yn ein rhaglen fuddsoddi genedlaethol helaeth, ac mae ehangu ein hystafell arddangos yng nghaerdydd wedi ein galluogi i gynnig profiad newydd i’n cleientiaid, yn seiliedig ar y gwasanaeth eithriadol y mae laing yn enwog amdano.” Joe Walsh, Prif Swyddog Gweithredol Laings
Mae siopau ffasiwn a ffordd o fyw premiwm eraill sydd wedi agor yn ddiweddar yn cynnwys Hobbs a Rituals sydd wedi agor ei siop gyntaf yn y rhanbarth..
Mae’r tai bwyta yng nghanolfan Dewi Sant a Chaerdydd hefyd wedi gweld twf sylweddol gyda brandiau’n lansio ac yn buddsoddi yn y gyrchfan gan gynnwys yr arbenigwyr mewn bwyd Thai, Giggling Squid, sydd ar fin agor ei fwyty cyntaf yng Nghymru a grŵp Ivy sy’n ehangu drwy gynnig cysyniad newydd, Ivy Asia – bydd y ddau yn cael eu lansio yn ddiweddarach eleni.
“Rwy’n caru caerdydd, mae’n lle anhygoel, siopa gwych, sîn adloniant cŵl a llwyth o fwytai gwych. rydym yn agor ein bwyty cyntaf yng nghymru mewn lleoliad ffantastig ar yr aes ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at gyflwyno ein bwydlen thai ffres a blasus i bobl caerdydd ac ymwelwyr â dewi sant.” Andy Laurillard, rheolwr gyfarwyddwr Giggling Squid
Mae canolfan Dewi Sant yn rhan o’r gymuned ac mae’n gweithredu fel canolbwynt i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bob Nadolig, mae’r Apêl Teganau yn fenter flynyddol yn y ganolfan, sy’n rhoi degau o filoedd o anrhegion i elusennau ac achosion da eraill. Fel rhan o’u hymrwymiad hirdymor, mae canolfan Dewi Sant ar hyn o bryd yn cefnogi amrywiaeth o elusennau fel NSPCC a Hijinx, elusen ac un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop sy’n creu perfformiadau gydag artistiaid anabl ac awtistig ar y llwyfan ac ar y sgrin yng Nghymru. Byddant yn cynnal eu gŵyl flynyddol ar yr Aes yn ystod mis Mehefin. Mae’r elusennau eraill a gefnogir gan ganolfan Dewi Sant yn cynnwys, Autistic Minds, Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru ar gyfer ymgyrch sydd wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer y gyrchfan hon.